Skip to the content

Storïau am Lwyddiant

Mae Cymunedau am Waith a Mwy a Cymunedau am Waith wedi helpu llawer o bobl i gael gwaith.

Edrychwch ar rai o'n straeon llwyddiant:

Mae'r gefnogaeth a ddarperir gan ein tîm Cymunedau am Waith + yn enghraifft wych arall o'r gwaith anhygoel sy'n digwydd i sicrhau bod pobl leol yn cael gwaith yn lleol.

Councillor Alan Jones

STORI LLYWDDIANT

Front Row Food

Mae menter busnes arlwyo newydd wedi agor ym Mhont-y-pŵl yr wythnos hon. Mae Front Row Food yn gaffi sydd wedi'i leoli ar ystâd ddiwydiannol Pontnewynydd, a chafodd ei agor yn swyddogol gan Johnathan Gibbs sy'n byw yn lleol. Cafodd John sy'n 35 ac o Abersychan, gymorth gyda chynllunio, marchnata a hyrwyddo trwy raglen Cymunedau am Waith + Cyngor Torfaen.

Mae gan John brofiad sylweddol yn y byd arlwyo wedi bod yn rheolwr ardal ers blynyddoedd lawer. Penderfynodd roi cynnig ar hunangyflogaeth a chydnabod breuddwyd hir o redeg ei fusnes ei hun. Gweithiodd John yn ddiflino i gael hyd i'r adeilad a'i ailwampio yn llwyr y tu mewn, gan osod offer hollol newydd i gynnig profiad caffi llawn i bobl leol. Wedi'r holl waith, mae John bellach wedi gwireddu ei freuddwyd pan agorwyd y caffi yn swyddogol ar ddydd Mercher yr wythnos hon.

Meddai John "Mae wedi bod yn freuddwyd ers tro i fwrw ymlaen â'r busnes hwn ac rwy'n gwbl ymrwymedig i geisio cefnogi pobl leol ac anghenion busnes lleol.

Edrychaf ymlaen yn fawr at sefydlu gwasanaeth o safon yma ym Mhont-y-pŵl. Diolch i gymaint o bobl sydd wedi fy helpu i gyrraedd y pwynt hwn ac edrychaf ymlaen at groesawu cwsmeriaid newydd yn y misoedd nesaf "

Mynychwyd y digwyddiad gan y Cynghorydd Alan Jones, aelod gweithredol dros Fusnes, Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant Cyngor Torfaen, ynghyd ag Iestyn Thomas, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a chwaraeodd dros Bont-y-pŵl a Chymru, i ddangos eu cefnogaeth i'r busnes.

Meddai’r Cynghorydd Alan Jones: “Dyma ganlyniad gwych arall i’r ardal, yn enwedig Pontnewynydd a’r busnesau sydd wedi eu lleoli ar y stad.

Mae'r gefnogaeth a ddarperir gan ein tîm Cymunedau am Waith + yn enghraifft wych arall o'r gwaith anhygoel sy'n digwydd i sicrhau bod pobl leol yn cael gwaith yn lleol. Hoffwn longyfarch John ar agor y busnes a dymuno pob llwyddiant iddo gyda'r fenter newydd hon, rwy'n siŵr y bydd y busnes yn gwneud yn hynod o dda". 

Dywedodd Richard Murphy, Swyddog Ymgysylltu â Gwaith gyda Chymunedau am Waith + “Pleser llwyr fu gweithio gyda John a gweld ei weledigaeth yn dwyn ffrwyth. Mae ef wedi gweithio mor ddyfal i gychwyn y fenter hon ac mae’r caffi’n edrych yn wych. Llongyfarchiadau i bawb sydd ynghlwm â'r busnes campus newydd hwn yn Nhorfaen”.

Cysylltwch â ni

Byddem wrth ein bodd i glywed gennych os hoffech gymorth i gael gwaith.