Skip to the content

Adeiladu

Mae llawer o gyfranogwyr wedi llwyddo i ennill eu Cymhwyster Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu Lefel 1, cwblhau eu profion HSE a'u cerdyn gweithredwyr gwyrdd CSCS. Mae eraill wedi gwella eu CV ymhellach trwy gwblhau cymwysterau ategol fel Ymwybyddiaeth o Asbestos, Gweithio mewn Mannau Uchel a Chymorth Cyntaf.

 

Diogelwch

Sector poblogaidd arall gyda llawer o gyfranogwyr bellach yn gweithio fel stiwardiaid neu oruchwylwyr drysau ar ôl cwblhau'r cwrs SIA a derbyn cymorth i ariannu a gwneud cais am eu trwydded SIA sy'n ofyniad cyfreithiol i bobl sydd am weithio yn y maes. Mae eraill hefyd wedi cwblhau cwrs Gweithredwr CCTV SIA ac wedi derbyn eu trwydded i weithio yn y sector hwn.

 

Trwydded Bersonol 

Er mwyn gwella'r posibilrwydd o weithio mewn tŷ tafarn trwyddedig neu amgylchedd manwerthu, mae llawer o gyfranogwyr wedi derbyn hyfforddiant trwydded bersonol. Dyma'r gofyniad statudol sydd ei angen i allu gwerthu alcohol mewn amgylchedd manwerthu. Mae ased go iawn i'r rhai sy'n dymuno gweithio mewn lletygarwch, arlwyo, neu mewn digwyddiadau - mae llawer o'n cyfranogwyr wedi gwella eu rhagolygon gwaith trwy gwblhau'r cwrs hwn ac wedi derbyn cymorth gan y prosiect i wneud cais am y drwydded gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

 

Hyfforddiant Diogelwch Bwyd

Y cwrs hwn, y cyfeirir ato'n aml fel Hylendid Bwyd ’yw'r union beth sydd ei angen arnoch os hoffech weithio mewn unrhyw le sy'n trafod, yn paratoi ac yn gweini bwyd. Mae'r dystysgrif hon yn ofyniad cyfreithiol i unrhyw un a hoffai weithio yn yr amgylchedd hwn. Mae'r cwrs yn cynnwys rheoli peryglon diogelwch bwyd, rheoli tymheredd, storio a pharatoi bwyd, hylendid personol ac arfer gorau o ran glendid a safonau yn y gweithle mewn perthynas â rheoliadau safonau bwyd.

 

Iechyd a Diogelwch Lefel 2

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddarparu'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i sicrhau eich bod yn gweithio'n ddiogel ac yn unol â rheoliadau Iechyd a Diogelwch. Mae'n darparu popeth sydd ei angen fel y gallwch fod yn ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a diogelwch. Mae'r cwrs yn cynnwys rheoli risg ac adnabod peryglon, atal damweiniau, codi'n ofalus a rheoli llwythi trwm, arwyddion a chyfrifoldebau diogelwch yn unol â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.

 

Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith

Mae'r cwrs hwn yn galluogi rhywun sy'n rhoi cymorth cyntaf i roi cymorth cyntaf brys i unrhyw un sy'n cael ei anafu neu sy'n mynd yn sâl yn y gweithle. Mae hwn yn gwrs safonol i unrhyw un a hoffai weithio mewn gweithle sydd â risgiau gymharol isel. Mae cynnwys y cwrs yn cynnwys CPR, sgiliau cymorth cyntaf cyffredinol, sut i ddelio â sioc, beth i'w wneud os yw rhywun yn tagu, yn ogystal â deall rôl a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf brys.

 

Gwasanaeth Cwsmeriaid

Mae'r cwrs hwn yn ddefnyddiol i unrhyw un a hoffai weithio mewn unrhyw faes o rôl gwasanaeth cwsmeriaid. Mae'r cwrs yn cynnwys unrhyw beth o ddelio ag ymholiadau cwsmeriaid ar lefel isel i weithio tuag at y strategaeth gwasanaeth cwsmeriaid. Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys gwerthuso adborth gan gwsmeriaid a chynllunio gwelliannau.

 

Gyrru Tacsis

Medrwn nawr eich cynorthwyo gyda’r broses o gael eich Trwydded Cerbyd Hur Preifat a Cherbyd Hacni i’ch helpu i ddod yn yrrwr tacsi.

Mae hwn yn faes gwaith gwych os hoffech weithio ar adegau sy’n addas i chi, ond rydych yn hyblyg o ran gweithio’n hwyr y nos ac ar benwythnosau. Os ydych yn ystyried sefydlu eich cwmni eich hun neu eisiau cael eich cyflogi gan gwmni arall, byddwch angen eich trwydded er mwyn medru gweithio’n gyfreithlon.

Byddwch angen Archwiliad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) er mwyn edrych ar eich hanes troseddol ac efallai y byddwch angen archwiliad meddygol i wneud yn siŵr eich bod yn ffit i yrru yn gyfreithlon.

Cysylltwch â ni i weld sut medrwn eich cefnogi gyda chyllid a gwneud cais am eich trwydded.

 

Hyfforddiant HGV

Ydych chi wedi meddwl am hyfforddi i fod yn yrrwr lori? Gallwn eich cefnogi i gael trwyddedau Dosbarth 2 a Dosbarth 1 (yn amodol ar archwiliadau cymhwyster a thrwyddedau presennol).

Gallai fod yn gyfle gwych i yrfa llawer o bobl, a medrwn eich rhoi mewn cysylltiad â darparwyr hyfforddiant lleol a all fynd â chi drwy’r broses. Medrwn hefyd eich helpu i gael gwaith gyda chwmnïau lleol pan fyddwch wedi cwblhau’r broses yn llwyddiannus.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth!

Cysylltwch â ni

Byddem wrth ein bodd i glywed gennych os hoffech gymorth i gael gwaith.