Skip to the content

Gwyddom nad yw'r holl gyfranogwyr yn barod i fynd yn syth i fyd gwaith ac efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth personol arnynt cyn dechrau ar hyfforddiant mwy ffurfiol. Gall y prosiect ddarparu mynediad i'r canlynol (fel enghreifftiau):

Y Rhaglen 3 Cham:
  1. Cam i Fyny - y cwrs cychwynnol sy'n tywys cyfranogwyr trwy seicoleg sylfaenol i ganfod sut mae'r meddwl yn gweithio a sut y gall meddwl yn bositif wella eich bywyd, eich helpu i ennill mwy o incwm a chefnogi'ch teulu mewn ffordd fwy cadarnhaol.
  2. CAMAU i Ragoriaeth – cwrs patent dan hawlfraint The Pacific Institute. Mae hwn yn gwrs mwy manwl, wedi'i gyflwyno dros tua 4 diwrnod. Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â hunan-ddatblygiad, meithrin hyder a gosod targedau trwy archwilio effaith meddwl negyddol, seicoleg fel smotiau dall a mannau dall, pŵer meddwl yn bositif a chadarnhad. Y cwrs hwn yw'r cam nesaf i edrych yn fwy cadarnhaol ar fywyd a gosod targedau tuag at gyflawni nodau.
  3. Camau Nesaf – y cwrs sydd wedi'i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer byd gwaith. Mae'r cwrs hwn yn edrych ar dechnegau cadarnhaol i ysgrifennu CV sy'n sefyll allan, cwblhau cais am swydd yn llwyddiannus a sut i ragori mewn cyfweliad. Dyma'r cwrs a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sy'n teimlo'n barod i ddechrau gweithio ac sy'n chwilio am waith ond efallai nad ydynt yn hyderus mewn cyfweliad ac angen rhywfaint o gefnogaeth arnynt iddynt gyda'r broses o chwilio am waith.

Noder: Nid yw'n angenrheidiol i'r holl gyfranogwyr gymryd pob cam o'r Rhaglen 3 Cham. Er enghraifft, nid yw'r holl gyfranogwyr yn dechrau ar gam 1. Bydd hyn yn cael ei drafod gyda'ch Mentor neu Ymgynghorydd penodol.

  • Ymwybyddiaeth Ofalgar - ymagwedd integredig, sy'n seiliedig ar y corff a'r meddwl sy'n helpu pobl i reoli eu meddyliau a'u teimladau a'u hiechyd meddwl. Fe'i defnyddir yn eang mewn ystod o gyd-destunau erbyn hyn. Mae'r cwrs yn dysgu ymarferion fel ffyrdd o roi sylw i'r presennol, gan ddefnyddio technegau fel myfyrdod, anadlu, ac yoga.
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl – cwrs achrededig sy'n cynyddu gwybodaeth a hyder y cyfranogwyr i'w galluogi i ddarparu cymorth cyntaf a chefnogaeth i bobl sydd â phroblem iechyd meddwl. Ased go iawn i unrhyw CV y sawl sy'n gobeithio dechrau gweithio yn y sector gwaith gofal neu gymorth
  • Hyfforddiant ASIST Applied Suicide Intervention Skills Training – cwrs wedi'i gynllunio i roi sgiliau a hyder i gyfranogwyr ddarparu cymorth cyntaf iechyd meddwl i berson sy'n cael teimladau neu ymddygiad hunanladdol. Cwrs pwrpasol ar gyfer y rhai sy'n meddwl am yrfa yn y sector gofal neu gymorth ac yn adnodd gwych i'w ychwanegu at CV
  • Diogelu - Mae diogelu yn golygu diogelu iechyd, lles a hawliau dynol pobl. Mae'n hanfodol i iechyd a gofal cymdeithasol o safon uchel ac mae'n golygu cadw pawb yn ddiogel a gofalu am eu lles. Cwrs buddiol arall i unrhyw un sy'n meddwl am weithio mewn sector berthnasol.

Gall Cymunedau am Waith a Mwy a Cymunedau am Waith gynnig nifer o gyrsiau pwrpasol i gyfranogwyr, nid yn unig y rhai a amlinellir yma. Gweler syniadau eraill ar y poster isod, neu cysylltwch os oes unrhyw beth arall sydd o ddiddordeb i chi nad yw wedi ei gynnwys yma.

 

Cysylltwch â ni

Byddem wrth ein bodd i glywed gennych os hoffech gymorth i gael gwaith.